Lleoliad:
Hybrid – Ystafelloedd Pwyllgora 1 a 2 a
Chynhadledd Fideo drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 27 Hydref 2022
Amser:
09.31 -
11.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13137
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Hefin David AS Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Sarah Murphy AS Llyr Gruffydd AS Delyth Jewell AS Jenny Rathbone AS |
Tystion: |
Anthony Geddes, Confor Jerry Langford, Coed Cadw Andy Richardson, Food and Drink Wales Industry Board Simon Wright, Wright’s Independent Food Ltd Gwyn Howells, Hybu Cig Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Lara Date, Clerc Robert Donovan, Clerc Angharad Roche, Dirprwy Glerc Ceri Thomas, Swyddog Cymorth y Pwyllgor Katie Wyatt, Cynghorydd Cyfreithiol Gruffydd Owen, Cynghorydd Cyfreithiol Masudah Ali, Cynghorydd Cyfreithiol Stephen Davies, Cynghorydd Cyfreithiol Katy Orford, Ymchwilydd Elfyn Henderson, Ymchwilydd Sara Moran, Ymchwilydd Gareth Thomas, Ymchwilydd Rosemary Hill, Ymchwilydd Rhun Davies, Ymchwilydd |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.3 Datganodd Samuel Kurtz AS ei fod yn gyfarwyddwr Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru
2 Papurau i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd
2.2 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd
3 Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 5
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, Hybu Cig Cymru a Simon Wright. Bydd Andy Richardson o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru yn anfon adroddiad at y Pwyllgor ar waith a wnaed gan yr Athrofa Arweinyddiaeth ym maes Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Caergrawnt.
4 Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 6
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Confor a Choed Cadw.
5 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Protocol Gogledd Iwerddon
5.1 Trafododd yr Aelodau y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Preifat
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau tystiolaeth blaenorol. Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Protocol Gogledd Iwerddon. Bydd adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael ei gytuno drwy ohebiaeth yn barod i'w osod erbyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef 7 Tachwedd. Adolygodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar fonitro masnach, cyn cytuno i'w gyhoeddi a chael adroddiadau tebyg yn y dyfodol.